Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 16 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:35 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Angela Burns Keith Davies Suzy Davies Rebecca Evans Bethan Jenkins Lynne Neagle David Rees Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jeff Cuthbert, Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Vaughan Gething, Ddirprwy Weinidog Trechu Tlodi Peter Jones (Welsh Govt), Llywodraeth Cymru Martin Swain, Llywodraeth Cymru Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Ken Skates, Ddiprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Owen Evans, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Osland, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
Enghreifftiau o’r gwaith arbed costau sy’n mynd rhagddo i sicrhau bod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn cael ei weithredu’n llawn, a dadansoddiad o’r gost o weithredu’r Mesur pan fo hynny ar gael;
Gwybodaeth am yr arian a ddyrennir i Weinidogion eraill er mwyn gweithredu dyletswyddau newydd o dan y Mesur;
Eglurder o ran yr arian a ddyrennir er mwyn bodloni’r argymhellion eiriolaeth a gyflwynwyd dros y blynyddoedd diwethaf;
Ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiynau na chawsant eu gofyn.
3 Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
Eglurhad o’r arian a ddyrennir ar gyfer llythrennedd a rhifedd o’r llinell wariant yn y Gyllideb ar gyfer y cwricwlwm ac asesu;
Rhagor o wybodaeth am yr is-grŵp a grewyd i ystyried effaith y toriadau ym maes Addysg Bellach ar lefelau staffio a’r asesiad a gynhaliwyd o’r effaith ar gydraddoldeb;
Ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiynau na chawsant eu gofyn.
4 Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod.